Sunday, 21 December 2008

CLWB GWAU TREFOR

Y Nadolig hwn dosbarthwyd dillad i Unedau Geni Buan Ysbytai Maelor, Glan Clwyd a Gwynedd. Dosbarthwyd blancedi glin i Ysbyty Bryn Beryl a Chartref Bryn Meddyg. Cyflwynwyd eitemau i siop Urdd Cyfeillion Ysbyty Gwynedd Bangor.

Monday, 8 December 2008

GWASANAETH DIWRNOD AIDS Y BYD 2008


Nos Sul 7fed Rhagfyr cynhaliwyd gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd. Lluniwyd y gwasanaeth eleni gan Evie Vernon sydd yn gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Jamaica - JASL - Jamaica AIDS Support for Life. Cawsom hefyd ychydig o hanes partner Wola Nani o Dde Affrica sydd yn cael ei gynnwys ym mhecyn Apêl Undeb yr Annibynwyr 2008/09. Goleuwyd canhwyllau i gofio am waith gwirfoddolwyr dros y byd sydd yn rhoi eu bywyd i weithio dros bobl sydd yn byw gyda HIV ac AIDS, ac yn gwneud hynny yn aml iawn dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Tuesday, 2 December 2008

CLWB GWAU TREFOR




Mae'r Clwb Gwau yn haeddu canmoliaeth am waith proffesiynol a hardd iawn! Mae'r eitemau niferus sydd wedi cael eu gwau a'u dosbarthu wedi cael eu derbyn mewn nifer fawr o sefydliadau dros y misoedd diwethaf. Mae'n rhaid enw rhain ac ar yr un pryd llongyfarch y merched yn fawr iawn am waith o'r safon uchaf! Derbyniwyd eitemau yn ddiolchgar iawn gan:

Ysbytai: Glan Clwyd, Gwynedd, Maelor a Chaer (unedau gofal dwys babanod cynnar)
Hospis Ty'r Eos Wrecsam
Hospis Ty Gobaith Conwy
Lloches i Ferched Wrecsam a Shotton
Operation Christmas Child
Bryn Meddyg
Bryn Beryl
Cartref Penrhos
Ambiwlas Awyr a Heddlu Gogledd Cymru (tedis argyfwng)

BANER MASNACH DEG CYMRU




Eleni derbyniodd Cymru statws Gwlad Masnach Deg, y wlad gyntaf erioed i dderbyn y statws hwn! Mae'n golygu bod pob rhanbarth o Gymru yn cefnogi'r egwyddor sydd y tu ôl i Fasnach Deg ac yn cynnig nwyddau Masnach Deg yn y siopau a llefydd bwyta. Daeth y faner i Drefor ar ei thaith drwy Gymru a chafwyd Bore Coffi hwyliog iawn i ddathlu hynny. Cafwyd datganiadau cerddorol gan blant Ysgol yr Eifl. Cawsom hefyd ganddynt neges grymus iawn ynglyn â prynu nwyddau Masnach Deg - roedd y neges yn her i ni gyd gan ein cymell i feddwl pwy sydd yn gwneud ac o dan pa amgylchiadau y gwnaed y nwyddau rydym yn eu prynu. Dyma'r plant yn canu ac yn derbyn pel rygbi a pêl-droed Masnach Deg ar gyfer yr Ysgol.

Wednesday, 19 November 2008

GWASANAETH SUL YR URDD

Newid yn yr Hinsawdd oedd thema Gwasanaeth Sul yr Urdd eleni. Cynhaliwyd ein gwasanaeth blynyddol yn Maesyneuadd Nos Lun 17eg Tachwedd. Defnyddiwyd adnoddau'r Urdd a Cymorth Cristnogol ar gyfer y gwasanaeth oedd yn edrych ar y tywydd, y Newid yn yr Hinsawdd, yn edrych ar greadigaeth Duw, ac yn gwneud hynny drwy ganolbwyntio ar drychineb Cyclone Nagris yn Burma dros yr haf. Roedd y festri'n llawn a diolch i Adran yr Urdd a Clwb Chware Teg! am gymryd rhan yn y gwasanaeth. Da iawn chi. I wrando ar rap Jahaziel am ddifrod Cyclone Nagris cliciwch ar y botwm.

PERFFORMIADAU: I'R GALON




Llongyfarchiadau mawr i criw Chware Teg! am berfformiadau clodwiw iawn o'r sioe I'R GALON ar y thema o fwlio. Roeddech i gyd bob un yn wych ac yn ser go iawn! Diolch i'r hyfforddwyr am ddod atom ni bob wythnos i weithio ar y sioe: Gwen Lasarus (llwyfannu), Tess Ubranska (celf) a Nerys Gruffudd (cerdd). Roedd perfformiad mewn Festri lawn iawn i'r cyhoedd nos Fercher 12fed Tachwedd ac yna perfformiad i blant Ysgol yr Eifl, bore dydd Llun 17eg Tachwedd. Yn ystod y perfformiad hwn cafwyd cwmni Morfudd Hughes o raglen Pobl y Cwm - roedd yn braf iawn cael ei chwmni ac roedd ganddi air calonogol iawn i'w rannu wrth sgwrsio gyda'r criw.

CLWB CHWARE TEG! yn CAERDYDD












Bu criw o Clwb Chware Teg! draw yn Caerdydd am ddwy noson yn ystod Hanner Tymor, gan fwynhau diwylliant eu Prifddinas i'r eithaf! Roedd yna ddigon o gyfle i fwynhau ac i ddysgu am ddiwylliant ethnig Caerdydd. Roedd yn ymweliad amrywiol iawn gan i ni:


Gyfarfod Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Taith o amgylch y Senedd
Mynd i'r UCI i chwarae Bowlio 10
Taith gerdded yn ardal Bute gyda Grahame Davies
Ymweld a'r Goleulong, Mosg a Synagog
SIOPA! SIOPA! SIOPA!
Parti Pitsa Calan Gaeaf
Gweithdy creu barddoniaeth
a chyfarfod pobl ifanc o grefydd Sufi, ac ymuno mewn dathliad Zikr gyda nhw!