Friday, 30 September 2011

CLWB CHWARE TEG!



29 Medi 2011 - daeth chwech ynghyd i gymryd rhan yn y Tawelwch Noddedig yr wythnos yma a llwyddodd bob un i gyflawni'r gamp! Byddwn yn gadael i chi wybod yn union faint gasglwyd pan fydd yr arian wedi dod mewn. Da iawn chi!

Thursday, 29 September 2011

BORE COFFI

29 Medi 2011 - cynhaliwyd Bore Coffi cyfeillgar a chartrefol iawn heddiw yn yr Hen Ysgol. Roedd hwn yn Fore Coffi MacMillan, sydd yn dathlu eu 1oofed penblwydd eleni. Casglwyd £30 tuag at elusen MacMillan. Diolch yn fawr iawn.

DECHRAU DA!

28 Medi 2011 - gyda thema'r tywydd yn parhau, pa well ffordd i ddathlu'r heulwen braf nac yn chwarae allan heddiw!

Saturday, 24 September 2011

COLEG Y BALA



Dydd Sadwrn 24ain Medi 2011 - bu Elliw, Lauren a Catrin yn cynrychioli Clwb Hwyl a Sbri mewn diwrnod arbennig iawn yng Ngholeg y Bala. Heddiw roedd apel Hmangaihna In, Catref Cariadus Mizoram yn trosglwyddo siec am £27,200 i gynrychiolwyr o Mizoram. Roedd Clwb Hwyl a Sbri wedi cyfrannu £125 i'r apel wrth wneud gwaith llaw lliwgar iawn a chynnal Noson Coffi.

Friday, 23 September 2011

CLWB CHWARE TEG!



22ain Medi 2011 - diolch i bawb am ein cefnogi gyda'r Noson Coffi arbennig i wobrwyo Gwobr Amgylcheddol John Muir. A hithau'n dymor Diolchgarwch pa ffordd well i ddathlu nac i fwynhau y tir a'r harddwch o'n cwmpas. Casglwyd £61 tuag at Clwb Chware Teg! a chyfraniad y Clwb tuag at apel plant Sierra Leone yn dilyn ymweliad Llinos yno ym mis Mehefin. Wythnos nesa bydd y criw yn cymryd rhan mewn Tawelwch Noddedig. Dymuniadau gorau i Miriam sydd ar fin mynd i Brifysgol Aberystwyth, byddwn yn gweld dy golli!

Thursday, 22 September 2011

DECHRAU DA!



21ain Medi 2011 - daeth llawer i gael hwyl eto yr wythnos hon a bu prysurdeb mawr yn paentio!

Dyma lun o'r haul ar glaw. Diolch Duw am y gwynt a'r glaw a'r heulwen.

Friday, 16 September 2011

CLWB CHWARE TEG

Nos Iau 15fed Medi 2011 - cafwyd sleidiau ar daith Llinos i Sierra Leone heno gyda syniadau ar y diwedd sut y gallem fel Clwb godi arian ar gyfer plant Sierra Leone. Penderfynwyd cynnal TAWELWCH NODDEDIG nos Iau 29ain Medi!

Wednesday, 14 September 2011

DECHRAU DA!



14eg Medi 2011 - Heddiw daeth Dechrau Da! yn ol at ei gilydd wedi haf hir o seibiant. Daeth chwech o blant i'r Festri i chwarae a chael hwyl. Y Tywydd yw thema mis Medi a heddiw fe gawsom greu ambarel liwgar i'n harbed rhag y glaw mawr!

Wednesday, 7 September 2011

CLWB GWAU

Dydd Llun 5ed Medi 2011 - Croesawyd pawb yn ol i'r Clwb Gwau wedi seibiant dros yr haf. Braf iawn oedd gweld pawb o'r aelodau yn ol, ac wedi bod yn brysur yn gwau dros yr haf. Roedd digon o eitemau wedi dod i mewn i fedru gwneud pecyn ar gyfer Ysbyty Gwynedd a GlanClwd. Bydd rhain yn mynd i'r ddwy ysbyty cyn diwedd y mis.