Thursday 30 March 2017

26ain Mawrth 2017

Sul y Mamau
Dyma'n blodau haul yn barod fel anrhegion.
Cawsom hefyd stori gan Sian - hanes Iesu Grist yn gwella'r dyn dall.



19fed Mawrth 2017

Bedydd ac Oedfa Ysgol Sul.

12fed Mawrth 2017

Cyfle heddiw i edrych ar boster or Pilipinas ddefnyddiwyd yng Ngwasanaeth Gweddi Byd-eang y Chwiorydd.  Mae'n dangos y gwrthgyferbyniadau sydd yn y wlad.  Tlawd a chyfoethog, llygredd ac ardaloedd hardd. Prinder bwyd a bwyd iach.  Cafwyd sylwadau arbennig am y llun gan y plant. Aethom ymlaen wedyn i edrych ar Apel Cymorth Cristnogol y Presbyteriadi sef Corwynt Cariad sydd yn ffocysu ar waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Y Pilipinas.  Mae ail-gylchu yn broses dyddiol yno gyda pob darn o'ch cartref y tu allan yn gyfle i

dyfu rhywbeth...llysiau'r bara, brenhinllys, mintis, letus, tomatos....oherwydd bod cartrefi'r bobl mor agos at eu gilydd yn y slymiau, does dim lle i ardd.  Dyma boteli diod wedi ail-gylchu a hadau blodau haul ynddynt yn barod ar gyfer Sul y Mamau!!

Sunday 5 March 2017

5 Mawrth 2017 - Hwyl a Sbri Ysgol Sul

Dyma'n disgyblion yn barod at gyfer ein hoedfa deulu Mawrth 19: Seimon Pedr; Andreas; Iafo; Ioan; Philip; Bartholomeus; Mathew; Thomas; Iago; Simon y Selot; Jwdas a Jwdas Iscariot.  Cawsom gyfle i edrych at y llun yma o'r Pilipinas gan edrych at ddwy ochr I fywyd y wlad - y llawnder a'r tlodi.  Cafwyd sylwadau ardderchog gan y plant am rhannu, bod yn gyfartal a meddwl am bobl eraill yn ein gweddiau.





3 Mawrth 2017 - Cyfarfod Chwiorydd Byd-Eang

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig wedi ei gyflwyno gan ferched Y Pilipinas.


19 Chwefror 2017 - Hwyl a Sbri Ysgol Sul

Heddiw cawsom hanes Iesu Grist yn galw disgybl arall sef Mathew, y casglwr trethi.  Ail-grewyd hanes Mathew gyda'r teganau.

5ed Chwefror 2017 - Hwyl a Sbri Ysgol Sul

Hanes Iesu yn dewis y pedwar disgybl oedd yn bysgotwyr: Iago, Ioan, Andreas a Seimon. Adnod TYRD DILYN FI.